Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Miwsig yn yr Ardd yn Bodawen

Miwsig yn yr Ardd yn Bodawen


Cafodd preswylwyr Cartref Nyrsio Bodawen brynhawn hyfryd o gerddoriaeth fyw gyda Mark o Music Therapy Café.

Gan wisgo eu hetiau doniol a mwynhau’r addurniadau lliwgar, bu’r preswylwyr yn canu ac yn dawnsio gyda’i gilydd ar batio’r ardd. Roedd digon o wenu, chwerthin ac atgofion hapus wrth i bawb fwynhau’r gerddoriaeth a’r tywydd braf.

Prynhawn hyfryd llawn hwyl, cyfeillgarwch a cherddoriaeth!


Pob Eitem Newyddion