Cartref > Gwybodaeth > Tystebau

Tystebau


...Yn wir, mae’r cliw yn enw’r cartref hwn, ‘cariad’

"Does yr un ohonom yn gwybod beth sydd yn ein gwynebu a da o beth fod cartrefi gofal ar gael i rhai sydd ei hangen. Un o’r rhai gorau o rheini ydi Cartref Gofal Cariad ym Mhentrefelin. Yn wir, mae’r cliw yn enw’r cartref hwn, ‘cariad’ a dyna yn union mae’r staff anhygoel a chlen sydd yn gweithio yno ddydd a nos, yn dangos yng ngofal fy mam. Cystydd blin a chreulon iawn ydi Alzheimer’s ond ni allai mam fod mewn lle gwell. Mae ein dyled fel teulu yn fawr i chi. Diolch yn fawr iawn. Bendith arnoch oll."

Dafydd Jarrett


...Roedd y gofal a gafodd yn wych: roedd y staff yn astud, amyneddgar a charedig 

"Treuliodd fy modryn saith mlynedd olaf ei bywyd, I 96 mlwydd oed, fel preswylydd Plasgwyn. Yn anffodus, nid oedd hi’n gallu cerdded am y cyfnod hwn. Roedd y gofal a gafodd yn wych: roedd y staff yn astud, amyneddgar a charedig, hyd yn oed mewn amgylchiadau anodd iawn. Roedden ni fel teulu, oedd yn byw sawl awr I ffwrdd, yn teimlo’n hollol sicr ei bod hi’n derbyn gofal o safon, ac roedd y tîm ym Mhlasgwyn yn ddiwyd iawn wrth ein cadw’n gwybodus am ddatblygiadau yn ei chyflwr. Dwi’n ei hystyried hi’n lwcus iawn o fod wedi cael gofal o’r fath ar diwedd ei bywyd, ac mi roeddem yn lwcus I wybod ei bod hi’n ei dderbyn."

John Wakefield


 ...Mae’r staff, o’r gofalwyr i’r rheolwyr, yn arbennig.

"Mae’n benderfyniad anodd gwybod pa gartref sydd orau i’ch mam.  Wedi gorfod ei symud i gartref nyrsio gan i’w hanghenion ddwysáu.  Bûm yn ffodus iawn i gael lle iddi ym Mhlasgwyn.  Mae’r staff, o’r gofalwyr i’r rheolwyr, yn arbennig.  Maent wastad yn barod i helpu, pa bynnag gwestiwn neu ymholiad sydd gennych.  Mae cerdded fewn i Blasgwyn yn rhoi teimlad cartrefol ac agos at i mi.  Allai byth ddiolch digon am y gofal mae mam yn ei dderbyn yno."

Marian Lacey


 ...Mae  awyrgylch gartrefol iawn ym Modawen 

"Bu mam yn aros Yng Nghartref Bodawen yn ystod cyfnod annodd iawn (Covid 19). Cafodd ofal arbennig yn ystod y cyfnod yma, roedd y camau i gadw y trigolion yn saff yn ganmoliadwy iawn. Mae  awyrgylch gartrefol iawn ym Modawen  ac mae'r staff bob amser yn glen a pharod i ateb unrhyw ofid ne chwestiwn."

Geraint Evans