Croeso i Cariad Care Homes


Croeso i Cartrefi Gofal Cariad, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth gofal nyrsio cyffredinol o safon. Sefydlwyd y cwmni yn 1999 ac ers hynny maent wedi adeiladu enw ardderchog am ofal nyrsio a gofal diwedd oes. 

Mae ein ddau cartref nyrsio wedi cael eu datblygu i fod yn llefydd cartrefol, diogel, glân, a hapus i fyw ac i weithio ynddynt. Ein ffocws yw sicrhau bod ein trigolion yn cael eu trin fel unigolion, gyda'r urddas a parch.

Rydym yn falch iawn o'n tîm sydd wedi eu hyfforddi i safon uchel, sydd yn annog dewis, hyrwyddo annibyniaeth, a threfnu gweithgareddau bob dydd nid yn unig i ysgogi pobl ond hefyd i hybu ymdeimlad o annibyniaeth, gan sicrhau bod urddas a lles ein trigolion bob amser wrth wraidd yr hyn a wnawn.
 

Amdanom

Outside Bodawen building

Bodawen


Prynwyd Bodawen gan gwmni Cariad Care Homes yn 2004 ac mae wedi'i gofrestru i ddarparu gofal nyrsio 24 awr ar gyfer hyd at 40 o unigolion.

Yn edrych dros Fynyddoedd y Moelwyn ac yn swatio mewn 10 erw o erddi tawel a choetir, mae Bodawen yn gartref hwyliog a llachar lle caiff y trigolion eu hannog i fod yn egnïol, mwynhau gweithgareddau amrywiol a mynychu digwyddiadau cymdeithasol o fewn y gymuned.

Mae Bodawen wedi ei leoli ar gyrion Porthmadog, oddi ar ffordd osgoi yr A487. Mae Stryd Fawr Porthmadog 0.5 milltir o'r cartref ac mae'r gwasanaeth bws lleol yn stopio yn agos at y fynedfa i'r cartref. 

Ein Cartref Bodawen

Outside Plasgwyn building

Plasgwyn


Agorwyd Cartref Nyrsio Plasgwyn yn 1998 ac mae wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i ddarparu gofal nyrsio cyffredinol 24 awr y dydd i 38  unigolion.

Rydym yn hynod o falch am yr enw da eithriadol y mae Plasgwyn wedi ei greu ar gyfer gofal nyrsio a gofal diwedd oes.

Mae Plasgwyn wedi ei leoli ym Mhentrefelin ar yr A497, 0.5 milltir o Gricieth a 4.5 milltir o Borthmadog ac mae ganddo safle bws yn union gyferbyn a'r cartref.

Ein Cartref Plasgwyn