Cartref > Ein Cartrefi > Catref Bodawen
Catref Bodawen
Prynwyd Bodawen gan gwmni Cariad Care Homes yn 2004 ac mae wedi'i gofrestru i ddarparu gofal nyrsio 24 awr ar gyfer hyd at 40 o unigolion.
Yn edrych dros Fynyddoedd y Moelwyn ac yn swatio mewn 10 erw o erddi tawel a choetir, mae Bodawen yn gartref hwyliog lle caiff y trigolion eu hannog i fod yn egnïol, mwynhau gweithgareddau amrywiol a mynychu digwyddiadau cymdeithasol o fewn y gymuned.
Mae gan Bodawen dair lolfa, dwy ardal fwyta ac ardal ystafell wydr a phatio fawr yn edrych dros y mynyddoedd.
Mae'r llety wedi'i leoli dros ddau lawr, ar hyn o bryd mae gennym 3 ystafell dwbwl a 33 ystafell sengl sydd i gyd yn en-suite. Mae'r holl ystafelloedd wedi'u dodrefnu'n llawn ac mae ganddyn nhw deledu, system Galwadau Nyrs, soced ffôn ac mae Wi-Fi drwy'r cartref. Anogir unigolion i addasu eu hystafelloedd i adlewyrchu eu dewisiadau eu hunain ac i ddod ag eitemau personol, lluniau, addurniadau, ac eitemau bach o ddodrefn i wneud iddynt deimlo mor gyfforddus a chartrefol.
Rydym yn annog teulu a ffrindiau i ymweld â'r cartref ac i ymuno â gweithgareddau o fewn y cartref. Mae man trin gwallt, ac mae trinwr gwallt yn ymweld â'r cartref yn wythnosol. Rydym hefyd yn croesawu Gweinidogion o bob enwad i ymweld â Bodawen.
