Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Grŵp Wclelê Lleol
Grŵp Wclelê Lleol
Grŵp Wclelê Lleol yn Dod â Llawenydd Nadoligaidd i Fodawen
Cafodd preswylwyr Cartref Gofal Bodawen brofiad Nadoligaidd hyfryd yn ddiweddar wrth groesawu grŵp wclelê lleoli’r cartref am brynhawn llawn cerddoriaeth a chanu.
Perfformiodd y grŵp amrywiaeth o ganeuon Nadolig poblogaidd, gyda’r preswylwyr yn canu ynghyd yn frwd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Roedd yr awyrgylch yn llawn llawenydd, gyda cherddoriaeth yn dod â phawb at ei gilydd i rannu hwyl a chreu atgofion hapus.
I ychwanegu at ysbryd yr ŵyl, roedd preswylwyr, staff a’r perfformwyr yn gwisgo hetiau Siôn Corn, gan greu golygfa liwgar a chwareus. Roedd y sesiwn yn gyfle gwych i annog cymdeithasu, ymgysylltu a llesiant drwy gerddoriaeth.
Mae Bodawen yn parhau i groesawu grwpiau cymunedol lleol i’r cartref, gan feithrin cysylltiadau cryf â’r gymuned a darparu profiadau ystyrlon i’r preswylwyr, yn enwedig yn ystod cyfnod y Nadolig.


