Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Parti Nos Galan ym Modawen

Parti Nos Galan ym Modawen


Ar Nos Galan, cafodd preswylwyr Bodawen ddirwnod llawn dathlu I groesawu’r flwyddyn newydd! Gyda’r cartref wedi’I addurno gyda balŵns a baneri, cafodd ffrindiau a theulueodd eu hannog I ymuno â’r dathliadau! Mwynhaodd y preswylwyr gêm o Pass the Parcel gyda phawb ag ymunodd yn ennill gwobr! Hefyd, chwareon ni gêm o hangman a gêm cyffrous o denis balŵn!

Yr oedd y diwrnod hefyd yn llawn canu I ganeuon Cymraeg a Saesneg, dawnsio a chacennau cartref arbennig yn y prynhawn! Mi wnaeth y preswylwyr fwynhau moctêls cartref hefyd, a dywedodd nhw eu bod nhw’n blasus iawn! Cawsom sesiwn tynnu lluniau gyda phrops hwyl, a chreuodd llawer o chwerthin! I orffen y parti, ymgasglodd preswylwyr a staff yn y lolfa i gyfrif i lawr a gwylio arddangosfa tân gwyllt ardderchog ar y teledu!

Yn gyfan, cafwyd amser ardderchog a dywedodd y preswylwyr hwyl fawr I 2024 mewn steil – Blwyddyn Newydd Dda Bawb!


Pob Eitem Newyddion